SL(6)703 – Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026
Cefndir a diben
Mae Adran 24A o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) gadw cyfrif o elw ardoll ymwelwyr a gesglir ar gyfer pob prif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll ymwelwyr yn ei ardal. Yna, rhaid i'r ACC dalu'r elw i'r cyngor perthnasol ar ôl i'r ACC ddidynnu costau arfer ei swyddogaethau ardoll ymwelwyr ar gyfer yr ardal honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cyfyngu'r didyniad a ganiateir i 10% o elw'r ardoll ymwelwyr. Mae'r Rheoliadau, hefyd, yn cynnwys mecanwaith lle mae'r didyniad yn cael ei gyfyngu ymhellach pe bai'n arwain at ACC yn didynnu symiau sy'n fwy na chyfanswm ei gostau gweithredu ardoll ymwelwyr.
Y weithdrefn
Cadarnhaol Drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Yn y Rheoliadau hyn, mae'r term “ardoll ymwelwyr” wedi cael ei ddefnyddio sawl gwaith ond nid yw wedi'i ddiffinio. Mae'n derm wedi'i ddiffinio yn adran 192(2) o Ddeddf 2016, lle rhoddwyd yr un ystyr iddo ag yn Rhan 3 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025.
Nid yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn cynnwys darpariaeth sy’n cyfateb i adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978, sy’n darparu bod gan ymadroddion a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth yr ystyr sydd ganddynt yn y Ddeddf y gwneir yr is-ddeddfwriaeth oddi tani.
Gofynnir i Lywodraeth Cymru, felly, i egluro pam nad oes diffiniad o ‘ardoll ymwelwyr’ yn ymddangos yn y Rheoliadau hyn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y 2 phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
2. Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath
O dan adran 25(3) o Ddeddf 2016, rhaid i ACC dalu i Gronfa Gyfunol Cymru symiau a ddidynnwyd, mewn perthynas â'i gostau, o elw'r ardoll ymwelwyr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod terfynau rhagnodedig ar swm y didyniadau hynny.
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae paragraff 3.1 o'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn tynnu sylw'r Pwyllgor at y datganiad canlynol:
“Mae’r offeryn hwn wedi ei lunio heb ddefnyddio’r feddalwedd newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymru. Mae’n bosibl felly y bydd angen gwneud mân welliannau i’r fformadu yn ystod y broses gofrestru os caiff y ddeddfwriaeth hon ei chymeradwyo gan y Senedd a’i gwneud gan Weinidogion Cymru.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwynt adrodd technegol.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
12 Ionawr 2026